Ed Miliband
Bydd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, yn dweud heddiw fod yn rhaid i’w blaid newid os ydyn nhw am gipio grym yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Mewn araith yn Wrecsam fe fydd yn mynnu nad yw’n ddigon i’r blaid ddisgwyl i’r “pendil cloc” siglo yn ôl i’w cyfeiriad nhw.

Fe fydd hefyd yn amddiffyn ei gynlluniau i gael gwared ar y system sy’n caniatáu i Aelodau Seneddol y blaid ethol aelodau Cabinet yr wrthblaid.

Bydd yn dweud fod angen diwygio’r blaid fel ei fod yn gallu ymateb yn gynt i anghenion y cyhoedd a rhoi’r argraff fod y blaid yn barod i gipio grym yn 2015.

“Rydw i eisiau i ni fod yn llywodraeth amgen. Yr unig etholiad y dylai aelodau’r cabinet orfod pryderu amdano yw’r Etholiad Cyffredinol,” meddai.

‘Anghofio’

Dylai pob aelod o’r blaid ganolbwyntio ar bryderon y cyhoedd yn hytrach nag “edrych i mewn” ar beth oedd yn digwydd o fewn y blaid, meddai.

“Anghofiodd Llafur am y cyhoedd. Anghofiodd Llafur Newydd am y blaid. Erbyn i fi gael fy ethol roedden ni wedi colli cysylltiad â’r ddau,” meddai.

“Rydw i eisiau arwain plaid sydd yn fwy agored i’r cyhoedd. Ac fe fydd fy arweinyddiaeth i yn fwy agored i’r blaid.”

Mae etholiadau i gabinet yr wrthblaid wedi bod yn draddodiad o fewn y blaid ers mwy na 50 mlynedd ac mae cynlluniau i gefnu ar hynny wedi gofidio rhai Aelodau Seneddol.

Ond dywedodd Ed Miliband ei fod yn “hyderus” y byddai yn ennill cefnogaeth ei Aelodau Seneddol ar y mater.

Bydd cynhadledd y Blaid Lafur yn pleidleisio ym mis Medi.