Mae tad byrgler honedig gafodd ei drywanu i farwolaeth ar ôl ceisio torri i mewn i gartref wedi dweud y byddai ef yn ceisio amddiffyn ei eiddo yn yr un modd.

Fe fu farw John Bennell, 27, o Fanceinion Fwyaf, ar ôl cael ei drywanu yn ei frest wedi i bedwar dyn oedd yn gwisgo mygydau geisio torri drwy ddrws y cefn tŷ teras yn Salford ddydd Mercher.

Dywedodd tad John Bennell, Gary, 52 oed, fod gan berchnogion tai yr hawl i amddiffyn eu cartrefi.

“Rydw i’n gobeithio y byddai gen i’r dewrder i amddiffyn fy eiddo fy hun,” meddai wrth bapur newydd The Sun.

“Mae pethau yn gallu mynd dros ben llestri, ond mae gan rywun yr hawl i amddiffyn eu heiddo.”

Dywedodd ei fod ef a’i wraig Diane, 56 oed, wedi colli cysylltiad â’u mab cyn ei farwolaeth. Ond roedden nhw wedi “torri eu calonnau” wrth glywed beth ddigwyddodd.

Amheuaeth

Cafodd un o drigolion y tŷ, Peter Flanagan, 59, ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn marwolaeth John Bennell.

Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth nes 25 Gorffennaf wrth i’r heddlu ymchwilio ymhellach.

Cafodd ei fab Neil, 27, a dynes 21 oed hefyd eu harestio ond maen nhw wedi eu rhyddhau.

Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi arestio dyn arall 30 oed, o ardal Tameside, ar amheuaeth o fyrgleriaeth.

Cadarnhaodd yr heddlu fod John Bennell wedi ei arestio yn Tamworth, Swydd Stafford, ddechrau’r mis ar amheuaeth o fyrgleriaeth.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa dros nos a’i ryddhau gan Heddlu Swydd Stafford wrth iddyn nhw ymchwilio ymhellach.