Bono yn ei bomp
Mae protestwyr yn bwriadu tarfu ar berfformiad hirddisgwyliedig y canwr Bono a’i fand U2 yn eu gig yng Ngŵyl Glastonbugry y penwythnos hwn.

Yn ôl ymgyrchwyr sy’n honni fod y rocars Gwyddelig yn osgoi talu trethi yn yr Iwerddon, mi fyddan nhw’n cynnal sdynt gweladwy i dynnu sylw at eu pryderon.

Daw gitarydd y band The Edge, a gafodd ei fedyddio yn David Howell Evans, o deulu Cymraeg.

Er gwaetha’r addewid o law trwm, mae disgwyl I 170,000 o bobl gael parti anferth ar safle 900 acer Glastonbury.

Ond fe fydd rhai’n benderfynol o darfu ar berfformiad Bono, sy’n enwog am ymbil ar wleidyddion y Gorllewin i wario arian eu trethdalwyr i helpu gwledydd tlawd Affrica.

Mae criw Art Uncut yn bwriadu gosod ‘giant inflatable’ o flaen camerâu’r BBC wrth i un o fanidau mwya’’r byd fynd ar lwyfan y Pyramid Stage, a chodi placardiau gyda’r negeseuon ‘Bono tax dodger’ a ‘Bono Pay up’.

“Trwy osgoi talu miliynau o Ewros mewn trethi mae U2 yn amddifadu’r Gwyddelod ar adeg pan maen nhw wir angen yr incwm i liniaru cynlluniau cwtogi gwariant llym y llywodraeth,” meddai’r ymgyrchydd Charlie Dewar.

“Dylid defnyddio’r arian treth sydd yng nghyfrif banc y band i gadw ysbytai, ysgolion a llyfrgelloedd sy’n wynebu gorfod cau yn yr Iwerddon, ar agor. Mae Bono yn adnabyddus am ei ymgyrchu’n erbyn tlodi ond mae Art Uncut yn ei gyhuddo o ragrith.”

Roedd U2 i fod i rocio Glastonbury y llynedd, ond cafodd y perfformiad ei ganslo wedi i Bono anafu ei gefn.