Mae miloedd o bobl mewn oed sy’n cymryd rhai o’r cyffuriau mwyaf cyffredin yn cynyddu’r risg o ddioddef o ddirywiad meddyliol, yn ôl ymchwil newydd. 

Mi holwyd 13,000 o bobl a gwelwyd bod yna risgiau wrth gymryd cyffuriau dros y cownter a chyffuriau presgripsiwn sy’n cynnwys rhai poenladdwyr, antihistamine, teneuwyr gwaed a diferion llygaid ar gyfer glawcoma. 

Yn ôl yr ymchwilwyr mae sgil effeithiau’r cyffuriau yn gallu cael effaith ar yr ymennydd, gan gynyddu’r risg o ddirywiad a marwolaeth. 

Cafodd 80 o gyffuriau eu profi i weld a oedden nhw’n cael effaith wael ar yr ymennydd trwy rwystro niwrodrosglwyddydd allweddol o’r enw asetylcolin. 

Roedd y cyffuriau yn cael eu graddio yn ôl cryfder y gweithgarwch yma, gyda’r cyffuriau hynny oedd yn sgorio ‘Un’ yn cael effaith ysgafn, ‘Dau’ yn cael effaith gymedrol a ‘Thri’ yn achosi’r pryder mwyaf difrifol. 

Dangosodd canlyniadau’r ymchwil bod un mewn pump o bobl oedd yn cymryd cyffuriau oedd yn sgorio cyfanswm o ‘Bedwar’ neu fwy wedi marw erbyn diwedd yr astudiaeth ddwy flynedd, o gymharu â 7% o’r rhai hynny nad oedd yn cymryd unrhyw gyffuriau gwrth-golinergig. 

Am bob pwynt ychwanegol oedd yn cael ei ychwanegu at gyfanswm cyffuriau pobl, roedd y risg o farw yn cynyddu 26%. 

‘Dim angen mynd i banig’

Mae pennaeth ymchwil y Gymdeithas Alzheimer’s wedi rhybuddio pobl i beidio â mynd i banig ynglŷn â chanlyniadau’r ymchwiliad. 

“Mae’r ymchwil yma’n darparu canlyniadau gwerthfawr ac mae’n rhaid eu cymryd yn ddifrifol,” meddai Dr Susanne Sorensen. 

“Er hynny mae’n allweddol bod pobl ddim yn mynd i banig na stopio cymryd eu meddyginiaeth heb siarad gyda’u meddygon.

 “Rydym ni’n annog pobl i gael apwyntiadau cyson gyda’u meddygon i adolygu’r holl gyffuriau maen nhw’n eu cymryd.”