Wylfa
Mae gweinidogion wedi rhoi sêl bendith i adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar Ynys Môn, heddiw.

Cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan restr o wyth safle sy’n addas i adeiladu gorsafoedd niwclear newydd arnynt erbyn 2025.

Mae pob un ohonyn nhw ddrws nesaf i orsaf niwclear sydd eisoes yn bodoli.

Y safleoedd oed Wylfa; Bradwell, Essex; Hartlepool; Heysham, Swydd Gaerhirfryn; Hinkley Point, Gwlad yr Haf; Oldbury, Swydd Gaerloyw; Sellafield, Cumbria; a Sizewell, Suffolk.

Bydd nifer o’r hen orsafoedd niwclear ar y safleoedd hyn yn cau i lawr dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd rhaid i San Steffan bleidleisio o blaid y cynlluniau, ond mae disgwyl na fydd unrhyw drafferthion wrth sicrhau cefnogaeth y mwyafrif o ASau.

Daw’r cyhoeddiad tri mis ar ôl trychineb gorsaf niwclear Fukushima yn Japan, sydd wedi codi cwestiynau newydd am ddiogelwch y dechnoleg.

Mae Llywodraeth yr Almaen eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n bwriadu adeiladu gorsafoedd niwclear newydd yn sgil y trychineb.

Ond dywedodd y gweinidog egni, Charles Hendry, bod gorsafoedd niwclear newydd yn angenrheidiol er mwyn dyfodol Ynysoedd Prydain.

“Mae angen egni fforddiadwy, sefydlog arnom ni sydd ddim yn cynhyrchu llawer iawn o garbon,” meddai.