Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu wrth dorri i mewn i dŷ ym Manceinion.

Roedd y lleidr honedig yn ceisio torri i mewn i dŷ yn Salford, ychydig cyn hanner nos neithiwr, ond credir iddo gael ei drywanu gan rywun oedd yn ceisio amddiffyn ei eiddo.

Mae’n debyg bod y lleidr, sydd heb ei enwi eto, wedi ei gario oddi yno yn syth wedi iddo gael ei drywanu gan griw o ddynion oedd yn gwisgo balaclafas.

Mae’r heddlu wedi cau’r tŷ y tu ôl i dap erbyn hyn. Mae’r tŷ ei hun gyda’i gefn at dir agored, diffaith, gerllaw canolfan ail-gylchu’r cyngor.

Yn ôl pobol leol, roedd y lladron wedi ceisio torri i mewn i’r tŷ drwy ddrws y cefn.

Mae’n debyg fod y bobol yn y tŷ wedi clywed a bod dynes wedi ffonio 999 o’r tŷ yn fuan wedyn.

Mae Heddlu Manceinion Uchaf yn dweud mai megis dechrau y mae’r ymchwiliad ar hyn o bryd, ac y bydd mwy o fanylion yn cael eu rhyddhau yn ddiweddarach.

Ond cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod nhw yn “ymchwilio ar ôl i ddyn farw yn Salford”.

“Toc cyn hanner nos, galwyd yr heddlu i gyfeiriad ar Ethel Avenue, Pendlebury, yn dilyn adroddiadau am fyrgleriaeth, a bod grŵp o ddynion yn cario dyn wedi ei anafu ar Heol yr Ysbyty.

“Wedi i’r heddlu gyrraedd Heol yr Ysbyty, daethant o hyd i ddyn 26 oed oedd ag anafiadau sy’n awgrymu ei fod wedi ei drywanu.

“Cafodd ei gario i’r ysbyty, ac yno fe gadarnhawyd ei fod wedi marw.

“Mae dau ddyn ac un ddynes wedi cael eu harestio, ac yn cael eu cadw dan glo.”