George Osborne
Fe allai David Cameron a George Osborne orfod newid eu cynlluniau i dorri’n ôl ar wariant cyhoeddus os yw gwrthwynebiad y cyhoedd yn “rhy groch” i’w anwybyddu.

Dyna farn pennaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol sy’n dweud y gallai’r Ceidwadwyr orfod torri llai a dros gyfnod hirach.

Wrth ysgrifennu yng nghylchgrawn Prospect, mynnodd Paul Johnson y byddai pawb ym Mhrydain yn teimlo poen y dirwasgiad ac y byddai cyflogau yn parhau i syrthio er gwaetha’r adferiad.

Ychwanegodd fod tro pedol Llywodraeth San Steffan ar haneru dedfrydau troseddwyr oedd yn pledio’n euog yn gynnar, polisi fyddai wedi arbed £130m, wedi codi cwestiynau am benderfynoldeb y Prif Weinidog a’r Canghellor.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld y Prif Weinidog yn gwingo wrth sylweddoli beth fyddai sgil effaith toriadau i ddedfrydau troseddwyr,” meddai Paul Johnson.

“Mae’n bosib na fydd modd iddo ef na’i Ganghellor anwybyddu’r galw am ragor o wario cyhoeddus er mwyn helpu yn ystod yr amseroedd caled sydd i ddod.”

Cynllun amgen?

Ychwanegodd y bydd yn rhai i George Osborne ailfeddwl ei gynllun i leihau’r diffyg ariannol os yw’r Swyddfa Ddarbodus yn israddio twf tebygol economi Ynysoedd Prydain.

“Byddai angen cynllun amgen petai yna ddirwasgiad arall yn taro,” meddai.

“Hyd yn oed os yw’r adferiad yn bwrw ymlaen fel y disgwyl dyw’r adferiad ddim yn debygol o blesio unrhyw un.

“Mae chwyddiant yn uchel ac felly mae cyflogau yn debygol o ddisgyn. Mae trethi wedi dechrau effeithio ar bobol, a thoriadau i fudd-daliadau newydd ddechrau.

“Mae ymchwilwyr y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn awgrymu y bydd incymau ar gyfartaledd ddim uwch yn 2013 nag yr oedden nhw yn 2004.

“Yn wahanol i ddirwasgiadau eraill fe fydd y poen yn cael ei rannu ar draws cymdeithas – yn wahanol i ddechrau’r 1980au pan oedd miliynau yn ddi-waith wrth i eraill ffynnu.”