Tripoli, Libya
Mae David Cameron wedi mynnu y gall y lluoedd arfog Prydeinig gynnal eu hymgyrch yn Libya er gwaethaf pryderon rhai o benaethiaid y fyddin.

Dywedodd y Prif Weinidog fod ddigon o hyblygrwydd o fewn Adolygiad Strategol Amddiffyn a Diogelwch y llywodraeth i ganiatáu iddyn nhw barhau i wario arian ar y wlad.

Ychwanegodd fod “amser ar ein hochor ni” wrth i’r pwysau gynyddu ar yr unben Muammar Gaddafi.

“Un rheswm da dros gael Cyngor Diogelwch Cenedlaethol sy’n cwrdd bob wythnos yw ein bod ni’n gallu holi a oes gennym ni’n adnoddau a’r strategaeth gywir,” meddai.

Pwysau ‘anferth’

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin galwodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ar y llywodraeth i ystyried y toriadau i’r fyddin.

Dywedodd fod ymateb David Cameron i bryderon y fyddin – “Cwffiwch chi ac fe wna i’r siarad” – yn “anurddasol” a “ffroenuchel”.

Roedd Syr Simon Bryant, dirprwy arweinydd y Llu Awyr Prydeinig, wedi dweud ddechrau’r wythnos fod brwydro yn Libya ac Afghanistan yn rhoi pwysau “anferth” ar eu hadnoddau.

Daw hynny wedi i  Bennaeth y Llynges Frenhinol, Syr Mark Stanhope, ddweud y byddai yn rhaid i Lywodraeth San Steffan wneud “penderfyniadau anodd” os oedden nhw eisiau i’r rhyfel yn Libya barhau am fwy na chwe mis.