Ian Davidson
Mae Aelod Seneddol o’r Blaid Llafur wedi ei feirniadu ar ôl iddo alw cenedlaetholwyr yn “neo-ffasgwyr” yn San Steffan.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, fod rhaid i ASau fod yn fwy gofalus wrth ddewis eu geiriau, ar ôl sylwadau cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Albanaidd Tŷ’r Cyffredin.

Roedd yr AS Ian Davidson wedi defnyddio’r term yn ystod dadl am Fesur yr Alban, a drosglwyddwyd o Dy’r Cyffredin i Dŷ’r Arglwyddi neithiwr.

Wrth ymateb i watwar ASau’r SNP dywedodd ei fod yn “sylweddoli eu bod nhw’n ceisio fy nhawelu i”.

“Dyna sydd fel arfer yn digwydd yn yr Alban pan mae pobol yn herio’r cenedlaetholwyr, a’u credoau neo-ffasgaidd cul…”

Cwynodd ASau’r SNP ar y pryd ond ymatebodd llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, nad ei swyddogaeth ef oedd “gwrthbrofi nonsens”.

Heddiw dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, fod dyfodol cyfansoddiad yr Alban yn bwnc llosg ond nad oedd esgus am ddefnyddio’r fath iaith.

“Rhaid gofyn ydyw o fudd i’r uniad a’r Alban fod Pwyllgor Dethol Materion Albanaidd Tŷ’r Cyffredin yn cael ei gadeirio gan rywun sy’n galw cefnogwyr annibyniaeth yn ‘neo-ffasgwyr’?”

Doedd dim golwg o Ian Davidson yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, a dywedodd Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore ei fod yn bwysig fod pob AS yn defnyddio “iaith briodol” wrth ddadlau yno.