Alex Salmond
Mae Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi annog Aelodau Seneddol i bleidleisio yn erbyn cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn y pedwar mis nesaf.

Dywedodd Alex Salmond mai cynllun gan y Ceidwadwyr er mwyn ceisio “chwalu” cynlluniau Llywodraeth yr Alban oedd hi.

Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol Jacob Rees-Mogg wedi cynnig y newid i Fesur yr Alban a fyddai yn gorfodi pleidlais fuan ar annibyniaeth.

Ond dywedodd arweinydd yr SNP, Alex Salmond, mai’r nod oedd cynnal refferendwm yn ail hanner tymor Senedd yr Alban ar ôl “dadl briodol a llawer iawn o ystyried”.

“Ni ddylen nhw bleidleisio o blaid ymgais y Ceidwadwyr i chwalu ein cynlluniau,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Maen nhw’n chwarae gemau gwleidyddol â dyfodol cyfansoddiadol pobol yr Alban.”

Dywedodd Alex Salmond fod ei blaid wedi cael mandad gan bobol yr Alban yn yr etholiad ddechrau mis Mai, tra bod y Ceidwadwyr “wedi derbyn y canlyniad gwaethaf yn eu hanes”.

“Yn ystod yr etholiad roedden ni wedi dweud beth oedden ni’n mynd i’w wneud, ac mai’r flaenoriaeth oedd datrys problemau swyddi, cyflogaeth a thwf economaidd.”

Mae Mesur yr Alban yn cael ei drafod yn San Steffan heddiw cyn iddo gael ei drosglwyddo i Dy’r Arglwyddi.

Bydd y mesur yn trosglwyddo rhagor o gyfrifoldeb i Gaeredin, gan gynnwys gwerth £12 biliwn o rymoedd ariannol.

Dywedodd Alex Salmond ei fod eisiau i’r mesur fynd ymhellach a datganoli trethi busnes a rheolaeth dros Ystâd y Goron i Senedd yr Alban.