Cameron a Clegg
Mae’r Prif Weinidog wedi dweud fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn ei atal rhag gweithredu’n llymach er mwyn atal mewnfudo a lleihau budd-daliadau.

Mynnodd David Cameron nad dim ond y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, oedd wedi gorfod cyfaddawdu ers dechrau’r glymblaid.

“Rhaid i bawb gyfaddawdu,” meddai wrth raglen Steve Wright in the Afternoon ar Radio 2.

“Pe bawn i’n Brif Weinidog mewn llywodraeth Geidwadol yn unig fe fyddwn i wedi mynd ymhellach ar fewnfudo a gwneud yn siŵr nad ydi pobol sydd ddim yn gweithio yn cael budd-daliadau.

“Fe fydden ni’n fwy llym nag yr ydym ni nawr.

“Rhaid i ni gyfaddawdu a chytuno, ond rydw i’n credu fod y Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o les i’r wlad yma.”

Cyfaddefodd fod gan y glymblaid “rhai problemau” ond ei fod yn gweithio’n dda ar y cyfan.

Gwadodd ei fod o a Nick Clegg yn penderfynu ar bolisïau’r Llywodraeth yn ystod un galwad ffôn ar nos Sul.

“Rydyn ni’n aml yn siarad ar y ffon ar nos Sul er mwyn trafod y materion sydd angen eu datrys, ond rydyn ni hefyd yn cyfarfod yn gyson,” meddai.

“Mae’r glymblaid yn gweithio, er nad ydym ni wedi cael un ers 65 mlynedd. Mae’n wahanol.

“Y syniad ydi fod dwy blaid yn dod at ei gilydd, ac yn cyfaddawdu er lles y genedl. Mae yna rai problemau ond dyna ni.”