Alex Salmond, arweinydd yr SNP
Yr wythnos hon, fe fydd Aelod Seneddol Toriaidd yn ceisio perswadio San Steffan i gynnal refferendwm buan ar gwestiwn annibyniaeth i’r Alban.

Mae Jacob Rees-Mogg, AS y Ceidwadwyr tros Ogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, wedi cyflwyno gwelliant i Ddeddf yr Alban, sy’n galw am gynnal refferendwm o fewn pedwar mis.

Fe addawodd Plaid Genedlaethol yr Alban, yr SNP, yn ei maniffesto etholiadol eleni y bydden nhw’n cynnal refferendwm ar annibyniaeth tua diwedd y tymor pum mlynedd presennol Senedd yr Alban. Fe enillodd yr SNP fwyafrif clir yn yr etholiadau fis diwetha’.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud na fydd yn sefyll yn ffordd unrhyw refferendwm ar fater annibyniaeth, tra bod Ysgrifennydd yr Alban llywodraeth San Steffan, Michael Moore, wedi dweud na fydd gweinyddiaeth Llundain yn cyhoeddi ei refferendwm ei hun.

Ond fe fydd Mr Rees-Mogg yn defnyddio’r cyfnod adrodd a’r trydydd darlleniad o’r Ddeddf ddydd Mawrth i geisio mwy o gefnogaeth i’w welliant a fydd, i bob pwrpas, yn creu oedi wrth fynd â’r ddeddf trwy San Steffan.

Y cwestiwn y byddai am ei ofyn yw: “Mae Deddf yr Alban yn cynyddu’r pwerau sy’n cael eu datganoli i Senedd yr Alban. A ddylai’r Alban, yn hytrach, gael annibyniaeth lawn?”