Siopa yn Llundain
Fe gafodd y briodas frenhinol effaith wael ar werthiant siopau yng ngwledydd Prydain yn ystod mis Mai, yn ôl y ffigurau diweddara’.

Roedd hynny a gwyliau’r Pasg yn golygu bod gwerthiant ym mis Mai 1.4% yn is nag ym mis Ebrill ac yn llawer gwaeth nag yr oedd arbenigwyr wedi’i broffwydo.

Am y tro cynta’ ers 14 mis, roedd cyfanswm y nwyddau a werthwyd mewn siopau bwyd wedi syrthio hefyd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Roedd yna gynnydd bychan yn holl werth gwerthiant siopau o’i gymharu â’r flwyddyn cynt, ond roedd y cynnydd yn llawer llai nag ym mis Ebrill a hynny er bod prisiau nwyddau a bwyd wedi codi’n sylweddol.

Mae un cwmni o ddadansoddwyr, Capital Economics, yn dweud eu bod yn disgwyl i’r ffigurau gwael barhau am weddill y flwyddyn ac y bydd yna ostyngiad mewn gwario tros y 12 mis.