Y London School of Economics (Jadrian CCA 2.5)
Fe ddylai’r Llywodraeth dorri Treth ar Werth ar unwaith, er mwyn rhoi hwb sydyn i’r economi, meddai’r Blaid Lafur.

Yn ei araith fawr gynta’ ers dechrau cysgodi Canghellor y Trysorlys, fe ddywedodd y llefarydd economaidd, Ed Balls, bod angen mynd yn ôl tros dro i gyfradd Dreth ar Werth o 17½%.

Fe gafodd ei chodi i 20% gan y Canghellor ym mis Ionawr ond, yn ôl Ed Balls, mae angen cymorth i roi hwb i wario, i ostwng chwyddiant a chreu rhagor o swyddi.

Galw am newid cyfeiriad

Fe ailadroddodd ei rybudd bod angen i’r Llywodraeth newid cyfeiriad rhag gwneud difrod parhaol i’r economi trwy geisio torri’r diffyg ariannol yn rhy gyflym.

“Byddai arafu’r broses dorri yn awr gyda gostyngiad tros dro mewn Treth ar Werth yn rhoi hwb angenrheidiol i’r economi sy’n sefyll yn yr unfan ar hyn o bryd,” meddai mewn araith yn y London School of Economics.

Fe ymosododd hefyd ar bennaeth y Gronfa Ariannol Rynglwadol, sydd wedi cefnogi strategaeth y Llywodraeth.

‘Rysáit ar gyfer methdalu’

Ond mae’r Canghellor hefyd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, ac roedd y ffigurau diweithdra ddoe yn dangos cynnydd mewn swyddi.

Yn ôl dirprwy Gadeirydd y Blaid Geidwadol,  Michael Fallon, roedd awgrymiadau Ed Balls yn rysáit ar gyfer methdalu.