Ed Balls
Mae yna wahaniaeth barn llwyr wedi dod i’r amlwg rhwng pennaeth Banc Lloegr a’r llefarydd Llafur ar yr economi.

Neithiwr, roedd Llywodraethwr y Banc, Mervyn King, yn dweud bod gwledydd Prydain ar y llwybr iawn at adferiad.

Heddiw, fe fydd y llefarydd Llafur, Ed Balls, yn galw ar y Llywodraeth i newid cyfeiriad gan ddweud eu bod yn poeni mwy am ennill etholiad na gwella’r economi.

Mewn araith yn y Mansion House yn Llundain, roedd Mervyn King yn dweud bod y cyfuniad o reoli cyfraddau llog, pwmpio arian i mewn i’r system a rhaglen doriadau yn golygu y bydd yr economi’n sefydlogi.

Ond roedd yn cydnabod hefyd y bydd yna ragor o flynyddoedd anodd a “stormydd” i gorddi’r dyfroedd ariannol.

‘Cylch cas’ meddai Balls

Fe fydd Ed Balls yn defnyddio araith yn y London School of Economics i alw ar y Canghellor, George Osborne, i newid ei strategaeth.

Fe fydd yn cyhuddo’r Llywodraeth o greu peryg o “gylch cas”, gyda llai o fuddsoddi, llai o incwm a llai o gyflogaeth yn arwain at ddiffyg twf, mwy o drethi ac angen am doriadau pellach.

Fe fydd yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o strategaeth i ennill Etholiad Cyffredinol 2015 yn hytrach nag adfer yr economi.