Ryan Giggs (Llun Man Utd)
Ryan Giggs yw’r diweddara’ i ddod ag achos yn erbyn papur newydd y News of the World tros honiadau o hacio i’w negeseuon ffôn symudol.

Fe gadarnhaodd cyfreithwyr y pêl-droediwr eu bod nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn News International, perchnogion y News of the World a’r Sun.

Fe ddaw hynny ar ôl i’r papur Sul gyhoeddi straeon yn honni bod Giggs, sy’n ŵr priod ac yn dad i ddau o blant, wedi cael perthynas rywiol gyda’r fodel Gymraeg Imogen Thomas a gwraig ei frawd, Rhodri.

Stori Imogen Thomas oedd ynghanol cyfres o achosion llys, pan gafodd Giggs waharddiad i atal neb rhag ei enwi – cyn i hynny gael ei chwalu gan straeon ar y We a datganiad gan Aelod Seneddol.

Yn ôl y papurau, mae’r chwaraewr 37 oed wedi gwadu’r stori am ei chwaer yng nghyfraith.

Y cefndir

Erbyn hyn, mae nifer mawr o enwogion a ffigurau cyhoeddus wedi dechrau gweithredu yn erbyn News International ar ôl iddyn nhw gyfadde’ bod eu newyddiadurwyr ac ymchwilwyr preifat wedi torri i mewn i negeseuon ffôn symudol.

Ynghynt y mis yma, fe gafodd yr actores Sienna Miller iawndal o £100,000 yn yr Uchel Lys ar ôl dod ag achos yn erbyn y cwmni papurau newydd am darfu ar breifatrwydd a phlagio