O wefan Transport for London
Mae trafodaethau i atal streic gan weithwyr system tanddaearol Llundain wedi dod i ben heddiw gan beryglu hwylustod teithio i bencampwriaeth tenis enwoca’r byd.

Mae’r gweithwyr yn bwriadu cynnal streic mewn protest yn erbyn diswyddiad y gyrrwr

trenau, Arwyn Thomas.

Mae Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth wedi cyhuddo penaethiaid tiwb Llundain o wrthod trafod ail benodi’r gyrrwr i’w swydd.

‘Diswyddo annheg’

Mae Arwyn Thomas wedi gwneud cais am ddiswyddo annheg mewn tribiwnlys cyflogaeth c mae disgwyl y canlyniad erbyn diwedd y mis.

Mae’r undeb yn bwriadu cynnal cyfres o streiciau sy’n dechrau nos Sul ac fe fyddai hynny’n cael effaith ar ddechrau cystadleuaeth tenis Wimbledon.

Roedd yr undeb a phenaethiaid tiwb Llundain wedi cynnal trafodaethau am ddwy awr heddiw, ond mae’r undeb yn dweud bydd y streicio yn parhau.