Iain Duncan Smith (Llun y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol)
Mae caethwasiaeth yn effeithio ar fwy o bobol yng ngwledydd Prydain heddiw nag yr oedd pan gafodd ei wneud yn anghyfreithlon ddau gan mlynedd yn ôl.

Dyna farn mudiad dyngarol sy’n lansio prosiect ymchwil newydd i’r broblem heddiw, gyda chymorth y gweinidog Cabinet, Iain Duncan Smith.

Yn ôl y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol, y fasnach mewn pobol yw’r drosedd ryngwladol sy’n cynyddu gyflyma’ ac mae’n ail i gyffuriau o ran cynhyrchu incwm anghyfreithlon.

Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2010, fe gafodd 706 o achosion o fasnachu neu gaethwasiaeth eu cofnodi yn ffurfiol yng ngwledydd Prydain.

‘Llawer gwaeth’

Yn ôl y Ganolfan, mae’r broblem yn llawer gwaeth, gydag un adroddiad yn awgrymu bod y broblem yn effeithio ar gymaint â 6,000 o oedolion a phlant bob blwyddyn.

Y tri phrif fath yw pobol yn cael eu gorfodi i fod yn forwynion neu weision, gangiau o weithwyr fel y casglwyr cocos a foddwyd ym Mae Morcambe a merched yn cael eu troi’n buteiniaid.

“Mae pob enghraifft o gaethwasiaeth yn golygu bod teulu wedi’i ddarnio a rhyddid a dewis unigolyn wedi’i ddisgrywio,” meddai Cyfarwyddwr Gweithredol y Ganolfan, Gavin Poole.

“Maen nhw’n nodi parhad masnach anghyfreithlon sydd, ers ei diweddu’n swyddogol yn 1807, wedi gyrru i ddistrywio llawer mwy o bobol nag yr oedd 200 mlynedd yn ôl.”