George Osborne - araith heno
Fe fydd y Canghellor yn cyhoeddi bwriad i orfodi’r banciau mawr i wahanu eu busnesau stryd fawr oddi wrth eu busnesau buddsoddi a mentro.
Y nod yw ceisio atal argyfwng arall yn y maes a gwneud yn siŵr nad yw cwsmeriaid cyffredin yn diodde’ pan fydd banciau fel Northern Rock yn mynd i drafferthion oherwydd benthyca gwirion.l
Y disgwyl yw y bydd George Osborne yn defnyddio araith flynyddol y Canghellor yn y Mansion House i gyhoeddi ei fod yn cefnogi argymhellion Comisiwn annibynnol i’r maes.
Fe fyddai’n golygu bod rhaid i fanciau godi mur amddiffynnol rhwng gwahanol agweddau eu gwaith – bancio stryd fawr a’r bancio mentrus sy’n ymwneud â buddsoddi, morgeisi a mentro.
Systemau ar wahân
Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd y manylion ond, yn ôl sylwebwyr, mae’r Llywodraeth yn debyg o ddweud bod rhaid i fanciau gael gwahanol adeiladau a gwahanol systemau ar gyfer y gwahanol fathau o waith.
Roedd y Comisiwn hefyd wedi awgrymu y dylai banciau’r stryd fawr gadw mwy o arian wrth gefn, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai problemau eraill yn effeithio ar gwsmeriaid cyffredin.
Fe fydd Comisiwn arall – Comisiwn Vickers – yn cyflwyno adroddiad pellach ym mis Medi.
Meddai’r Llywodraeth
“Mae hwn yn newid sylweddol i sicrhau bod banciau’r stryd fawr yn fwy diogel ac yn amddiffyn trethdalwyr,” meddai llefarydd yn y Trysorlys.
“Fe sefydlodd y Llywodraeth y Comisiwn Bancio er mwyn gofyn y cwestiynau anodd oedd heb eu gofyn cyn yr argyfwng. Mae Prydain bellach yn arwain y byd wrth ddysgu’r gwersi o fethiannau trychinebus y ddegawd ddiwetha’.”
Y cefndir
Mae’r argymhellion yn codi o’r argyfwng banciau a ddechreuodd yn 2008 ac arwain at y dirwasgiad ariannol.
Fe fu’n rhaid i’r Llywodraeth wario biliynau o bunnoedd i ddiogelu rhai o’r banciau mawr wrth iddyn nhw fynd i drafferthion ariannol.