Mark Serwotka - disgwyl streic
Mae disgwyl y bydd prif undebau’r gweision sifil yn cadarnhau heddiw eu bod am gynnal streic undydd ddiwedd y mis.

Fe fyddai hynny’n golygu bod o leia’ dri undeb yn y gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu yr un pryd.

Yn ôl eu harweinydd, mae aelodau’r PCS yn sicr o gefnogi’r alwad am weithredu diwydiannol tros newidiadau mewn pensiynau ac yn erbyn y toriadau gwario cyhoeddus.

Fe fydden nhw’n trefnu eu diwrnod cynta’ o weithredu ar 30 Mehefin i gyd-daro gyda streic undydd gan ddau o’r prif undebau athrawon, meddai’r Cymro Mark Serwotka, Ysgrifennydd Cyffredinol y PCS.

Athrawon

Ddoe, fe gyhoeddodd undeb mwya’r athrawon, yr NUT, a’r ATL, sy’n cynrychioli athrawon a darlithwyr,  eu bod nhwthau am gynnal streic – y tro cynta’ erioed i’r ATL gynnal pleidlais o’r fath.

Mae’r undebau’n cyhuddo’r Llywodraeth o fwriadu newid cynlluniau pensiwn i orfodi gweithwyr cyhoeddus i dalu rhagor, i weithio rhagor a derbyn llai.

Yn ôl undebau’r athrawon, dyw eu cronfa bensiwn nhw ddim mewn trafferthion ariannol ac maen nhw wedi derbyn newidiadau cynharach i geisio’i diogelu.

Mae undeb Cymraeg yr athrawon, UCAC, hefyd wedi cynnal pleidlais i weithredu’n ddiwydiannol tros yr un pwnc.

Y cefndir

Mae nifer o undebau cyhoeddus wedi rhybuddio’u bod eisiau trefnu gweithredu diwydiannol ar y cyd yn erbyn cynlluniau’r Llywodraeth ym maes gwario a phensiynau.

Er bod yr athrawon wedi pleidleisio o fwyafrifoedd mawr i gefnogi streic, roedd lefel y bleidlais yn isel yn y ddau achos – ymhell o dan yr hanner. Mae rhai’n amau y gallai’r Llywodraeth weithredu i fynnu bod rhaid i hanner aelodau gefnogi cyn cynnal streic.

Mae’r PCS yn cynrychioli 22,000 o weithwyr cyhoeddus yng Nghymru.