Mark Stanhope
Mae pennaeth y Llynges Frenhinol wedi rhybuddio na fydd swyddogaeth Prydain yn y rhyfel yn Libya yn gallu parhau tu hwnt i’r haf ar y lefel presennol.
Dywedodd y byddai yn rhaid i weinidogion gymryd penderfyniadau anodd ynglŷn â’u blaenoriaethau yn y wlad.
Dywedodd y Llyngesydd Syr Mark Stanhope, Prif Arglwydd y Môr, wrth bapur newydd y Guardian fod ei lynges wedi bwriadu aros yn yr ardal am chwe mis.
Tu hwnt i hynny byddai angen “penderfyniadau heriol” gan y llywodraeth, meddai.
Ychwanegodd y byddai’r llong awyrennau, yr Ark Royal, a’i jetiau Harrier wedi bod o ddefnydd pe na bai’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi penderfynu cael eu gwared nhw er mwyn arbed arian y llynedd.
E fyddai wedi bod yn rhatach na hedfan awyrennau o ganolfan milwrol Gioia del Colle yn yr Eidal, meddai.
“Mae Nato wedi ymestyn y cyfyngiad amser i 90 diwrnod, ac rydyn ni’n gyffyrddus â hynny,” meddai.
“Ond tu hwnt i hynny bydd rhaid i ni ofyn i’r llywodraeth gymryd penderfyniadau heriol ynglŷn â’u blaenoriaethau.
“Mae yna sawl ffordd wahanol o wneud hynny. Nid yw’n fater o roi’r gorau i bethau yn unig, rhaid cadw’r cydbwysedd.”