Banc Lloegr
Arhosodd chwyddiant ar ei uchaf ers dwy flynedd a hanner ym mis Mai, datgelodd ffigyrau swyddogol heddiw, wrth i brisiau bwyd, diod a thanwydd wasgu.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant wedi aros yn 4.5% fis diwethaf, ar yr un lefel a mis Ebrill.

Dyma’r 18fed mis yn olynol y mae chwyddiant wedi aros uwchben targed Banc Lloegr, sef 2%, gan roi rhagor o bwysau ar brynwyr.

Cynyddodd prisiau bwyd 1.3% rhwng Ebrill a mis Mai, a chynyddodd pris alcohol a thybaco 0.7% dros yr un cyfnod.

Cynyddodd pris tanwydd i £1.36 am litr o betrol a £1.42 am litr o ddisel. Ond syrthiodd prisiau mathau eraill o drafnidiaeth, er enghraifft hedfan.

Fe fydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi rhagor o bwysau ar Fanc Lloegr i godi cyfraddau llog o 0.5% er mwyn ceisio gostwng chwyddiant.