Dave Prentis, Unison
Mae arweinydd un o undebau mwyaf Prydain wedi dweud fod mwy na miliwn o weithwyr yn y sector gyhoeddus yn paratoi i streicio yn yr hydref.

Mae’n nhw’n bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol os nad yw’r Llywodraeth yn fodlon cefnu ar gynlluniau dadleuol i newid pensiynau.

Dywedodd Dave Prentis, ysgrifennydd cyffredinol Unison, fod nifer fawr o weithwyr llywodraeth leol a staff yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol “yn bwriadu” streicio.

Daw ei rybudd cyn cyhoeddiad yfory gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon a Chymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr ynglŷn â phleidlais i weithredu yn ddiwydiannol.

Bydd dros 300,000 o aelodau o’r ddwy undeb yn pleidleisio. Dyw Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr erioed wedi mynd ar streic o’r blaen.

Fe fydd undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn cyhoeddi canlyniad eu pleidlais hwythau ddydd Mercher.

Mae hynny’n golygu y gallai hyd at 750,000 o athrawon, gweithwyr sifil a staff eraill yn y sector gyhoeddus fynd ar streic ar 30 Mehefin.

Dywedodd Dave Prentis eu bod nhw’n bwriadu cynnig pleidlais i 1.2 miliwn o aelodau Unison os nad yw cyfarfod hollbwysig â’r Llywodraeth ar 27 Gorffennaf yn arwain at gytundeb.

“Ni fydd yna un diwrnod o streicio yn unig – fe fydd yna streicio dros gyfnod hir ym mhob un o’n gwasanaethau cyhoeddus er mwyn atal chwalu’r cynllun pensiwn,” meddai.

“Os nad yw’r Llywodraeth yn cefnu ar ei gynllun i ddinistrio pensiynau yn y sector gyhoeddus, fe fydd yr undeb yma yn gweithredu yn ddiwydiannol.”