Dinas Llundain
Mae grŵp busnes dylanwadol wedi rhybuddio heddiw na fydd yr adferiad economaidd o reidrwydd yn arwain at gynnydd mewn cyflogaeth.

Dywedodd y CBI fod angen i’r llywodraeth fynd i’r afael â “diffyg strwythurol yn nifer y swyddi” sydd ar gael yn Ynysoedd Prydain, a bod yna broblemau sy’n mynd yn ddyfnach na’r dirwasgiad ariannol.

Roedd degawd o dwf cyn y dirwasgiad wedi cuddio problemau mawr, gan gynnwys diweithdra tymor hir, gorddibyniaeth ar swyddi yn y sector breifat, a diffyg sgiliau.

Roedd pryder hefyd y byddai’r bwlch rhwng Llundain a De Ddwyrain Lloegr a gweddill y wlad yn cynyddu wrth i’r rhan fwyaf o swyddi sydd angen sgiliau gael eu creu yn yr ardaloedd rheini.

“Mae’r Llywodraeth yn gwneud y peth cywir wrth fynd i’r afael â’r diffyg ariannol, ond mae hefyd angen mynd i’r afael â’r diffyg swyddi,” meddai cyfarwyddwr y CBI, John Cridland.

“Roedd y blynyddoedd da cyn y dirwasgiad wedi cuddio problemau mawr, gan gynnwys dibyniaeth afiach ar y sector gyhoeddus.

“Ni fydd y problemau hyn yn diflannu wrth i’r economi ddechrau adfer ac fe allen nhw arwain at sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd difrifol.

“Dim ond twf yn y sector breifat all greu’r swyddi yr ydym ni eu hangen a sicrhau bod pob rhan o Ynysoedd Prydain yn ffynnu.”

Mae disgwyl i’r ffigyrau diweithdra diweddaraf gael eu cyhoeddi ddydd Mercher, ac mae’r CBI yn disgwyl i’r cyfanswm presennol, sef 2.46 miliwn, barhau i godi nes ei fod yn cyrraedd 2.6 miliwn.