Ed a David Miliband
Fe fydd yr arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn cyfaddef heddiw fod ei blaidyn cael ei gweld yn rhy barod i gefnogi bancwyr a phobol sy’n twyllo’r system fudd-daliadau.

Ar ôl wythnos o newyddion anodd sydd wedi codi amheuon am ei allu i arwain y blaid a’i berthynas â’i frawd David, bydd Ed Miliband yn dweud bod angen i’r Blaid Lafur newid yn sylfaenol.

Fe fydd yn addo hybu “cyfrifoldeb” ymysg y tlotaf a’r cyfoethocaf, gan awgrymu y bydd pobol dlawd yn cael blaenoriaeth ar restrau tai cyngor, ac y dylai cwmnïau mawr gynnwys gweithwyr cyffredin ar bwyllgorau sy’n penderfynu faint y mae penaethiaid yn cael eu talu.

David yn gwadu

Daw araith Ed Miliband ar ôl i’w frawd, David, orfod gwadu ei fod yn parhau i fod eisiau arwain y Blaid Lafur, ac yn cynllwynio yn erbyn ei frawd bach.

“Rydw i wedi symud ymlaen o arwain y Blaid Lafur ac fe ddylai pawb arall hefyd,” meddai. “Fe enillodd Ed, ac rydw i’n ei gefnogi – fe ddylai pawb arall hefyd.”

“Mae gyda ni i gyd ran i’w chwarae wrth gefnogi Ed a sicrhau ei fod yn herio polisïau di-hid y llywodraeth sy’n dinistrio’r wlad yma.

“Dim ond opera sebon yw’r gweddill a does gen i na’r cyhoedd ddim diddordeb yn hynny.”

Beio cefnogwyr

Ond mae llefarydd iechyd y Blaid Lafur, Diane Abbott, wedi beio cefnogwyr y brawd hŷn o geisio ansefydlogi’r blaid.

“Malais yw hyn i gyd gan bobol sydd ddim yn gallu derbyn fod David wedi colli,” meddai.

“Mae yna giwed fechan sydd yn ymosod ar Ed o hyd – ‘fydd o ddim yn goroesi’r wythnos yma’, ‘fe fydd o allan erbyn mis Mai nesaf’.”