Mae disgwyl y bydd Grŵp Bancio Lloyds yn cael gwared ar 15,000 o staff fel rhan o gynllun i arbed £1 biliwn.

Mae 41% o’r banc yn eiddo i’r trethdalwyr, ar ôl iddo orfod troi at y pwrs cyhoeddus am gefnogaeth yn sgil y dyledion drwg a etifeddodd wrth gymryd HBOS drosodd.

Fe fydd y cynllun arbedion, a fydd yn cael ei ddatgelu ddiwedd y mis, yn golygu cael gwared ar haenau o reolwyr a channoedd o swyddi yn y pencadlys yn Llundain.

Fe fydd miloedd yn rhagor o swyddi’n cael eu colli ledled Prydain ac mewn rhai canghennau tramor.

Mae Lloyds eisoes wedi cael gwared â thua 28,000 o swyddi yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Yr wythnos ddiwethaf, cychwynnodd y banc ar y gwaith o werthu 632 o’i ganghennau a rhan helaeth o’i werthiant morgeisio ar ôl cael gorchymyn i wneud hynny gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae disgwyl y bydd rhaid i Lloyds – sy’n dal 30% o gyfrifon cyfredol Prydain – werthu rhagor o’i ganghennau o dan gynlluniau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Annibynnol ar Fancio ym mis Medi.