Y Frenhines Elizabeth II
Mae miloedd o bobl wedi bod yn gwylio prif aelodau’r teulu brenhinol yn gorymdeithio yn seremoni Cyflwyno’r Faner ar strydoedd Llundain y bore yma.

Cyflwyno’r Faner yw un o brif seremonïau brenhinol Prydain ac mae’n nodi penblwydd swyddogol y Frenhines.

Eleni, roedd sylw pawb ar Ddug a Duges newydd Caergrawnt, a oedd yn cymryd rhan flaenllaw yn y seremoni am y tro cyntaf.

Gyda’r Frenhines yn teithio yn y cerbyd brenhinol rhwng Palas Buckingham ar hyd y Mall i’r Horse Guards Parade roedd Dug Caeredin, a oedd yn dathlu ei benblwydd yn 90 ddoe.

Y tu ôl iddyn nhw ar gefn eu ceffylau roedd y Tywysog Charles fel Cyrnol y Gwarchodlu Cymreig, Dug Caint fel Cyrnol Gwarchodlu’r Alban, y Dywysoges Anne fel Cyrnol Gleision y Household Cavalry, a William yn ei rôl newydd fel Cyrnol Gwarchodlu Iwerddon.

Fe dderbyniodd y Frenhines y saliwt brenhinol yn y seremoni yma am y tro cyntaf 60 mlynedd yn ôl yn 1951 pan gymerodd le ei thad, y Brenin Siôr VI, ym mlwyddyn olaf ei deyrnasiad.

Mae’r Frenhines yn 85 oed ers ei phenblwydd gwirioneddol ar Ebrill 21.