Mae dyn wnaeth dreisio tair o ferched mewn modd brawychus dros gyfnod o 10 wythnos wedi ei garcharu am gyfnod amhenodol er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

Roedd Lawrence Dugbazah o Peckham yn ne Llundain yn targedu merched ifanc oedd yn cerdded adre’ yn oriau mân y bore.

Clywodd Llys y Goron Southwark bod Dugbazah – mewnfudwr anghyfreithlon 29 oed – yn llusgo merched i’r llawr ac yn rhoi ei law yn eu cegau er mwyn eu hatal rhag sgrechian.

Plediodd yn euog i dreisio merch 19 oed yn Bloomsbury ar Ionawr 9 y llynedd.

 Cafodd ei arestio am fater yn ymwneud â thwyll ar Fawth 11 y llynedd, ond chafodd DNA Dugbazah ddim ei gysylltu gyda’r ymosodiad treisgar  hyd nes Mawrth 23.

Erbyn hynny roedd wedi ymosod ar ddynes yn ne Llundain ar Fawrth 13 a St James ar Fawrth 21.

Cafodd ei arestio ar Fawrth 25.