Yn ôl ymchwil newydd mae un o bob pedwar o bobl Prydain wedi gorfod defnyddio eu cynilion i helpu ariannu eu costau byw.

Roedd 40% o’r bobl a holwyd wedi dweud eu bod nhw wedi torri ‘nôl ar eu gwariant ers diwedd llynedd, gan gynnwys mynd allan yn llai aml, gwario llai ar fwydydd parod, torri ‘nôl ar siopa bwyd a defnyddio’r car yn llai aml. 

Ond er gwaethaf hynny, mae 25% o bobl yn dweud eu bod nhw dal wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio eu cynilion er mwyn helpu gyda chostau byw o ddydd i ddydd. 

Hefyd mae pobl yn canolbwyntio ar dalu dyledion, gyda 17% o bobl yn dweud eu bod nhw wedi cynyddu’r symiau maen nhw’n talu ‘nôl bob mis ers dechrau’r flwyddyn. 

Mae 20% o bobl wedi difaru rhai o’u penderfyniadau ariannol wnaethon nhw wedi gwneud cyn y dirwasgiad. 

A syrthio hefyd wnaeth y nifer o bobl sy’n hyderus ynglŷn â’u sefyllfa ariannol, gyda 16% yn dweud eu bod nhw’n hapus o gymharu â 23% yn chwarter cyntaf 2010. 

 “Mae’r ffigurau yma’n dangos ymdrech gan bobl Prydain i sicrhau ychydig mwy o sefydlogrwydd ariannol,” meddai Eric Lhomond o Axa UK.