Siambr Ty'r Cyffredin
Mae Aelod Seneddol wedi cael ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth ynglŷn â honiad o ymosod yn anweddus ar wraig ifanc.

Dyw’r heddlu ddim wedi cyhoeddi enw’r AS ond mae’r BBC’n honni mai AS Gogledd Swydd Caerlŷr, Andrew Bridgen, yw’r dyn.

Mae’r gwleidydd yn 46 oed ac mae wedi cael ei holi am yr ymosodiad ar wraig 29 yn ardal Westminster yn oriau mân bore heddiw.

Hyd yn hyn, mae’r blaid Geidwadol wedi gwrthod rhoi sylw gan ddweud fod hwn yn fater i’r heddlu.