Archesgob Caergaint
Mae Archesgob Caergaint, y Cymro Rowan Williams, wedi ei feirniadu’n hallt gan Geidwadwyr am ei sylwadau sy’n ymosod ar bolisïau Llywodraeth y Glymblaid.

Mewn erthygl yng nghylchgrawn y New Statesman, dywedodd Rowan Williams, eu bod nhw’n bwrw ymlaen â diwygiadau mawr “nad oes neb wedi pleidleisio o’u plaid”.

“Gyda chwimder hynod maen nhw’n cyflwyno polisïau radicalaidd, hirdymor nad oes unrhyw un wedi pleidleisio drostynt,” meddai.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Roger Gale na ddylai Rowan Williams, sy’n “aelod o Dŷ’r Arglwyddi heb gael ei ethol, ac yn archesgob heb ei ethol,” ddweud fod y llywodraeth yn annemocrataidd.

“Mae’n amlwg nad yw Dr Williams yn deall y broses ddemocrataidd. Fe ddylai ddeall fod gan aelodau Tŷ’r Cyffredin fandad,” meddai.

“Rydyn ni’n cael ein hanfon gan ein hetholwyr i San Steffan er mwyn ymdrin â materion y dydd fel ag y maen nhw, defnyddio ein hymenyddiau a cheisio gweithredu er budd y rheini yr ydyn ni’n eu cynrychioli.”

Wfftiodd ddadl Rowan Williams nad oedd gan ddiwygiadau Llywodraeth San Steffan gefnogaeth y cyhoedd, gan ddweud eu bod nhw wedi cynyddu maint eu pleidlais yn yr etholiadau lleol.

“Dyw hynny ddim yn rhoi’r argraff fod y cyhoedd yn barod i wrthryfela,” meddai.

Mewn datganiad, dywedodd Rhif 10 Stryd Downing fod y llywodraeth “wedi ei ethol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau mawr y wlad”.

“Mae’r polisïau ar addysg, budd-daliadau, iechyd ac yr economi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.”

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, ei fod yn croesawu sylwadau Rowan Williams ond eu bod nhw “braidd yn rhyfedd”.

Sylwadau’r Archesgob

Mae sylwadau pennaeth yr Eglwys yn Lloegr, sydd wedi eu cyhoeddi ym mhapur newydd y Daily Telegraph, yn anarferol o feirniadol o’r llywodraeth.

Ysgrifennwyd yr erthygl ar gyfer cylchgrawn diweddaraf y New Statesman, sydd wedi ei olygu am y tro gan Rowan Williams.

Dywedodd fod gwleidyddiaeth San Steffan “yn teimlo’n gaeth” a’i fod eisiau cyffroi “dadl fywiocach”.

Rhybuddiodd nad oedd digon o bolisïau’r llywodraeth “wedi eu trafod yn iawn” a bod hynny wedi “drysu a digio” pleidleiswyr.

Mae hefyd yn beirniadu “y Gymdeithas Fawr” gan ddweud ei fod yn slogan “diflas” oedd yn cael ei “ddrwgdybio gan bawb”.

“Mae’r Llywodraeth angen gwybod faint o ofn y mae pobol yn ei deimlo ar hyn o bryd,” meddai.