Tony Blair
Fe ddylai Ewrop gael ei Arlywydd etholedig ei hun a bod yn barod i uno er mwyn cystadlu â China, meddai Tony Blair heddiw.

Dywedodd y cyn Brif Weinidog y byddai Prydain yn elwa ar gysylltiadau cryfach â’i chymdogion.

Fe fyddai gan Arlywydd – fyddai wedi ei ethol gan bleidleiswyr o 27 cenedl – fandad cryf i arwain y cyfandir, meddai.

“Does gan Brydain ddim y grym na’r dylanwad sydd ei angen arno os nad yw’n rhan o rym Ewropeaidd,” meddai wrth bapur newydd y Times.

“Mae gan Ewrop gyfle gwych os ydyn nhw’n fodlon diwygio a newid y modd y maen nhw’n gweithio.”

Ond dywedodd cyn Aelod Seneddol Sedgefield ei fod yn cydnabod nad oedd yna “unrhyw siawns” y byddai ei syniadau yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.

“Y peth pwysig ydi deall nad yw’r gred fod Ewrop unedig yn bwysig er mwyn sicrhau heddwch yn mynd i fod yn ddigon i ddenu cefnogaeth y cyhoedd heddiw,” meddai.

“I genhedlaeth fy mhlant mae hynny’n ddadl wirion. Dydyn nhw ddim yn ystyried y bygythiad y gallai gwledydd Ewrop fynd i ryfel â’i gilydd yn un go iawn.

“Ond maen nhw’n deall ei fod yn gwneud synnwyr i Ewrop uno, yn enwedig nawr fod China yn mynd i fod yn rym dominyddol.

“Y sail resymegol dros Ewrop erbyn hyn yw grym, nid heddwch.”