Mae trefnwyr y Gemau Olympaidd wedi datgelu’r ffagl y bydd 8,000 o redwyr yn ei gario o amgylch y wlad cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Mae’r ffagl aur eisoes wedi derbyn beirniadaeth, â rhai yn ei gymharu â gratiwr caws. Mae 8,000 o dyllau ynddo, un am bob rhedwr.

Mae siâp triongl y torch hefyd yn cynrychioli’r tair gwaith y mae Llundain wedi cynnal y gemau – yn 1908, 1948 a 2012.

Cafodd y ffagl ei greu gan y cynllunwyr Edward Barber a Jay Osgerby.

Fe fydd taith y ffagl yn dechrau ar 19 Mai yn Land’s End cyn teithio drwy Gymru a hyd yn oed i Ynysoedd Allanol Heledd.

Fe fydd tua 110 person y diwrnod yn cael cyfle i gario’r fflam am filltir cyn cyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar 27 Gorffennaf.

Y nod yw bod 95% o boblogaeth Ynysoedd Prydain o fewn siwrne awr o hyd i daith y ffagl.