Mae undeb Unison wedi dweud fod y problemau sy’n wynebu Southern Cross yn debygol o  effeithio ar gwmnïau eraill sy’n darparu gofal i’r bregus a’r henoed.

Mae Southern Cross, sy’n gyfrifol am edrych ar ôl 31,000 o drigolion hŷn, wedi cyhoeddi na fyddwn nhw’n gallu talu rhent llawn ar eu hadeiladau dros y pedwar mis nesaf.

Dywedodd y cwmni, sydd â 34 o gartrefi gofal yn ne Cymru, eu bod nhw wedi gwneud colledion o £311 miliwn yn ystod y chwe mis i 31 Mawrth.

Rhybuddiodd Unison y gallai dros 1,000 o gartrefi gofal gau ar draws Prydain os ydi cwmnïau eraill yn dioddef o broblemau ariannol tebyg, ac y gallai hynny effeithio ar bron i 50,000 o drigolion bregus.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n camu i’r adwy gyda chefnogaeth ariannol i gadw’r cartrefi sydd gan Southern Cross yng Nghymru ar agor.

“Mae problemau Southern Cross yn dangos fod yr arbrawf o breifateiddio’r diwydiant gofal wedi mynd o chwith,” meddai adroddiad Unison.

“Yn 1990 roedd bron i 200,000 o’r 500,000 o bobol mewn cartrefi gofal oedd wedi eu rheoli gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Erbyn hyn dim ond 31,000 o bobol sydd dan ofal y sector gyhoeddus.

“Mae cynghorau wedi colli y rhan fwyaf o’u grantiau o’r llywodraeth yn ganolog, fydd yn arwain at ragor o dorri’n ôl.

“Wrth i’r boblogaeth heneiddio mae yna ragor o alw am wasanaethau ac fe fydd pobol fregus yn cael eu gadael heb unrhyw un i ofalu amdanynt os nad oes gweithredu brys.”