Paul Anthony Wilson (Llun Heddlu Gorllewin y Midlands)
Roedd dyn sy’n wynebu oes o garchar am dreisio plentyn bach wedi manteisio hefyd ar ferched ifanc yng Nghymru.

Fe gadarnhaodd Heddlu Gorllewin y Midlands bod Paul Anthony Wilson wedi bod yn defnyddio’r We i hudo merched rhwng 12 ac 16 oed o bob rhan o Gymru a Lloegr.

Yn ôl yr heddlu eu hunain, roedden nhw wedi eu dychryn gan natur y troseddau, wrth i Wilson bledio’n euog i ddau achos o dreisio plentyn oed meithrin a 45 cyfri o hudo merched ifanc.

Roedd wedi creu cymuned o bobol ffug er mwyn dod yn ffrindiau â’r merched, eu perswadio i berfformio’n rhywiol tros we-gamera ac yna defnyddio “ofn ac euogrwydd” i’w cadw nhw’n dawel.

Carchar am oes

Mae’r barnwr eisoes wedi rhybuddio Paul Wilson, 20 oed, y gallai wynebu cyfnod amhenodol o garchar.

Roedd yn gweithio mewn meithrinfa o’r enw Little Stars yn agos at ei gartref yn Newbold Croft, Nechells, yn Birmingham, ac roedd y treisio wedi digwydd yn ei waith.

Fe gafodd ei ddal ar ôl i un o’r merched ifanc gwyno wrth yr heddlu.