Llys y goron Birmingham
Mae dyn oedd yn gweithio mewn meithrinfa wedi cyfaddef iddo dreisio plentyn bach oedd o dan ei ofal.
Cyfaddefodd Paul Anthony Wilson yn Llys y Goron Birmingham i ddau gyhuddiad yn ymwneud â threisio merch dwy neu dair oed, a 45 cyhuddiad arall yn ymwneud â chreu a dosbarthu delweddau anweddus ac annog plant i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ar y we.
Cafodd y dyn 20 oed o Newbold Croft, Nechells, Birmingham, ei gyhuddo o dreisio ym mis Ionawr ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o gam-drin plentyn ar ôl cyfnod yn gweithio ym meithrinfa Little Stars gerllaw.
Treuliodd clerc y llys mwy na 30 munud yn adrodd manylion y cyhuddiadau yn ei erbyn, wrth i Paul Anthony Wilson syllu ar y llawr.
Wrth gydhoeddi y dylai’r pedoffeil gaeol ei gadw dan glo, dywedodd yr Ustus William Davis QC ei fod yn debygol iawn y bydd yn derbyn carchar am oes pan fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Gorffennaf.
“Mae angen gwarchod y cyhoedd,” meddai. “Mae bron yn anochel y bydd y ddedfryd yn un amhenderfynadwy.”
Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar 27 Gorffennaf.