Prifysgol Caerdydd
Doedd gweinidogion Llywodraeth San Steffan heb sylweddoli y byddai cymaint o brifysgolion yn penderfynu codi’r uchafswm £9,000 ar fyfyrwyr i astudio ynddynt.

Dywedodd Pwyllgor Dethol y Cyfrifon Cyhoeddus nad oedd yn amlwg eto a fyddai’r costau yn atal myfyrwyr rhag mynd i brifysgolion.

Ond rhybuddiodd y byddai yna “fwlch mawr mewn gwariant” mewn prifysgolion, a allai arwain at orfod buddsoddi rhagor o arian y trethdalwyr ynddynt.

Mae’r mwyafrif prifysgolion Lloegr, yn ogystal â Bangor, Aberystwyth, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg, wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n codi’r £9,000 llawn.

“Mae’n amlwg erbyn hyn y bydd llawer iawn mwy o brifysgolion yn penderfynu codi ffioedd uchel ar fyfyrwyr nag oedd yr Adran Fusnes wedi ei ragweld,” meddai’r adroddiad.

Llefydd gwag?

Awgrymodd cadeirydd y Pwyllgor, yr AS Margaret Hodge, y bydd angen rhagor o bwerau ar y cynghorau cyllido er mwyn sicrhau fod prifysgolion yn haeddu cael codi’r uchafswm ar fyfyrwyr.

“Ni fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr yn gallu dibynnu ar ei rôl wrth roi nawdd i brifysgolion er mwyn dylanwadu ar y sector a bydd angen cyflwyno rheolau newydd,” meddai.

“Nid yw’n amlwg eto a fydd ffioedd dysgu uwch yn effeithio ar y galw am lefydd gwag mewn prifysgolion.”

Bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5625 arall.

Yr wythnos diwethaf galwodd y Ceidwadwyr Cymreig ar Lywodraeth y Cynulliad i gefnu ar eu cynlluniau i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr Cymru.

Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar addysg, Angela Burns, nad oedd bellach yn ymarferol yn sgil penderfyniad y mwyafrif o brifysgolion i godi £9,000 ar fyfyrwyr o 2012 ymlaen.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi meddwl mai tua £7,000 fyddai cyfartaledd y ffioedd dysgu ar draws Cymru a Lloegr.