Ali Abdullah Saleh (www.kremlin.ru)
Mae adroddiadau bod mintai o Marines yn barod i helpu dinasyddion Prydeinig i adael Yemen os bydd amgylchiadau yno’n gwaethygu.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod aelodau o’r lluoedd arfog yn y cyffiniau ond maen nhw wedi gwrthod cadarnhau adroddiad y BBC bod tuag 80 o’r mor-filwyr yno.

Y gred yw eu bod ar long yn agos at lannau’r wlad sydd wedi gweld misoedd o ymladd wrth i garfanau brotestio’n erbyn yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh.

Mae ef bellach mewn ysbyty yn Sawdi Arabia ar ôl iddo gael ei anafu mewn ymosodiad ar ei balas.

Mae yna ddyfalu na fydd yn dod yn ôl, gan fod llawer o’i deulu wedi gadael gydag ef. Ond mae o leia’ un o’i feibion wedi aros ac mae rhai’n rhagweld rhyfel cartref yn y wlad.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi bod yn rhybuddio dinasyddion Prydeinig i adael.