Alex Salmond, arweinydd yr SNP
Byddai Llywodraeth San Steffan eisiau gweld dau refferendwm ar annibyniaeth cyn iddyn nhw ganiatáu i’r Alban wahanu oddi wrth weddill Prydain.

Dyna ddywedodd Ysgrifennydd yr Alban heddiw, wedi i arbenigwyr cyfansoddiadol awgrymu y byddai angen ail refferendwm i roi sêl bendith i’r ymraniad.

“Yng nghyd-destun y gyfraith gyfansoddiadol gyfredol, Llywodraeth San Steffan fyddai yn penderfynu a ydi refferendwm yn cyfri ai peidio,” meddai.

“Mae yna le o fewn y rheolau presennol ar gyfer refferendwm ymgynghorol ac rydyn ni’n ystyried hynny ar hyn o bryd.

“Fe fyddwn ni’n trafod â Llywodraeth yr Alban pan maen nhw’n datgelu beth yw eu cynigion nhw, ond dydyn nhw heb wneud hynny eto.”

Dywedodd y byddai angen yr ail refferendwm er mwyn i bobol gael rhoi eu barn ar y trafodaethau rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth San Steffan, fyddai’n dilyn y refferendwm cyntaf.

“Os oes yna refferendwm ymgynghorol wedi ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban mae’n debygol iawn y bydd angen ail refferendwm er mwyn rhoi sêl bendith i beth sy’n cael ei drafod gan y ddwy lywodraeth.”