Fe fydd Cymro sy’n arbenigwr ar enynnau yn darlithio mewn prifysgol breifat newydd yn Llundain.
Bydd Coleg Newydd y Dyniaethau, a fydd yn cael ei sefydlu yn Bloomsbury, yn cael ei ariannu yn breifat ac yn gobeithio gwneud elw.
Bydd y brifysgol newydd yn cynnig graddau yn y dyniaethau, economeg a chyfraith am £18,000 y pen bob blwyddyn.
Mae disgwyl y bydd y brifysgol, a fydd yn codi dwywaith cymaint â Rhydychen a Caergrawnt, yn derbyn myfyrwyr o 2012 ymlaen.
Maen nhw’n gobeithio denu myfyrwyr sydd ag o leiaf dair gradd A mewn pynciau Safon Uwch (Lefel-A).
Aberystwyth
Bydd yr academyddion yn cynnwys y genetegwr blaenllaw, Steve Jones, a gafodd ei fagu yn Aberystwyth a Chei Newydd.
Fe fydd yn ymuno â’r anffyddiwr enwog Richard Dawkins, a fydd yn dysgu bioleg esblygiadol, Niall Ferguson, a fydd yn dysgu economeg, a Steven Pinker, a fydd yn dysgu athroniaeth.
Dywedodd yr athronydd AC Grayling, meistr cyntaf y brifysgol, ei fod wedi ei symbylu yn rhannol gan y toriadau i addysg uwch ym Mhrydain.
“Os ydyn ni’n mynd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf mae angen addysgu i’r safonau uchaf gyda dychymyg, ehangder a dyfnder,” meddai.