Mae’r Canghellor George Osborne wedi derbyn hwb heddiw wrth i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol gefnogi ei gynllun i leihau diffyg ariannol gwledydd Prydain.
Dywedodd y sefydliad fod y gwendid yn economi Ynysoedd Prydain dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn “annisgwyl” ond mai problemau dros dro oedden nhw.
Er hynny, ychwanegodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol y byddai Cynnyrch Domestig Gros yn cynyddu 1.5% yn hytrach na’u rhagolwg blaenorol, sef 2.5%, yn 2011.
Mae rhai wedi galw am arafu cyflymder y toriadau ariannol wrth i’r twf yn economi gwledydd Prydain arafu yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn.
‘Hollbwysig’
Ond dywedodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol ei fod yn “hollbwysig” cyflwyno toriadau gwario a chynyddu trethi er mwyn lleihau’t dirwasgiad ariannol.
“Mae’r gwaith o adfer economi Ynysoedd Prydain yn mynd rhagddo,” meddai llefarydd ar ran y Gronfa.
“Serch hynny, roedd vynnydd annisgwyl mewn chwyddiant a chwymp annisgwyl mewn twf economaidd dros y saith mis diwethaf. Ond dim ond problemau dros dro yw’r rhain.”