Y Canghellor, George Osborne
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi wfftio galwadau arno i ailfeddwl toriadau Llywodraeth San Steffan.

Mynnodd mai’r toriadau oedd y “garreg” yr oedd adferiad economaidd Prydain wedi ei adeiladu arno.

Dywedodd y Canghellor y dylai unrhyw un oedd yn beirniadu’r cynllun “agor ei lygaid” a sylweddoli mai cynnydd ym mhris petrol a phroblemau yn Ewrop oedd wedi atal yr adferiad.

Ond wrth siarad â rhaglen Today heddiw mynnodd fod ei gynlluniau yn ddigon “hyblyg” i ymdopi â newid yn yr hinsawdd economaidd.

Dyw’r economi heb wneud cystal â’r disgwyl dros y misoedd diwethaf ac mae rhai wedi bod yn galw am gynllun amgen yn hytrach na bwrw ymlaen â’r toriadau.

Rhybuddiodd academyddion ddoe fod y toriadau yn rhy gyflym, a bod Prydain yn wynebu “llawer rhagor o boen heb unrhyw gynnydd” os nad oedd y cynllun yn newid.

Ond gwadodd George Osborne fod y data economaidd yn dangos fod yr economi yn mynd i’r cyfeiriad anghywir.

Cyhuddo’r cyfryngau

“Rydyn ni wedi gweld nifer y bobol sydd mewn gwaith yn cynyddu, a diweithdra ar drai dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

Cyhuddodd y cyfryngau o ganolbwyntio ar “gannoedd o swyddi” oedd yn cael eu colli fan hyn a fan draw.

“Rydw i wedi gwrando ar ambell i fwletin newyddion ar y rhaglen yma dros y flwyddyn ddiwethaf… bob tro y mae yna ychydig gannoedd o swyddi yn cael eu colli, mae yn y newyddion.

“Dydw i heb glywed unrhyw newyddion yn dweud fod 40,000 o swyddi wedi eu creu dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Rydw i’n galw am rywfaint o gydbwysedd wrth edrych ar economi Prydain.

“Wrth gwrs fe fyddwn i’n hoffi gweld rhagor o dwf. Mae’r economi yn tyfu, ond fe fyddwn i’n hoffi ei weld yn tyfu eto.

“Ond ein cynllun economaidd credadwy yw’r garreg y mae sefydlogrwydd economi Prydain wedi ei adeiladu arno.”