Asda - awyddus i fachu Iceland
Mae archfarchnad Asda yn paratoi at frwydr yn erbyn Morrisons yn yr ocsiwn £1.5bn i brynu cadwyn siopau bwydydd rhew Iceland.

Yn ôl papur y Sunday Times, mae perchennog Asda, Walmart, yn awyddus iawn i dyfu ar hyd a lled y byd. Mae gan Walmart gyfanswm o 8,500 o siopau mewn 15 o wledydd, ac mae wedi cynyddu ei bresenoldeb yng ngwledydd Prydain yn ddiweddar wrth brynu siopau rhad Netto gan y cwmni o Ddenmarc.

Ond mae Morrisons hefyd yn awyddus i brynu Iceland. Pe bai’n llwyddo, byddai’r cwmni’n treblu ei faint ac yn tyfu i fod yn agos iawn i Asda a Sainsbury’s yn y farchnad.

Fydd y broses o brynu a gwerthu Iceland ddim yn dechrau tan fis Medi, fodd bynnag.

Mmae sylfaenydd y cwmni, Malcolm Walker, a ddechreuodd y busnes yn Amwythig yn 1970, hefyd yn bwriadu cynnig am ei hen gwmni. Mae’n dal i fod yn berchen ar 26% o gyfranddaliadau’r cwmni.