Wayne Rooney
Mae’r pêl-droediwr, Wayne Rooney, wedi cydnabod ei fod wedi cael trawsblaniad gwallt.

Roedd ffotograff o ymosodwr Manchester United yn gadael clinig preifat yn Llundain wedi ei gyhoeddi gan bapur newydd The Sun heddiw.

Roedd y llun yn ei ddangos yn cerdded at ei gar yn gwisgo cap pêl-fas o dan hwdi. Ond roedd wedi gwrthod ag ymateb i gwestiynau ynglyn â pham yr oedd wedi ymweld â’r clinig.

Ond yn ddiweddarach y bore yma, fe gyhoeddodd Rooney ei sylwadau ar wefan Twitter, gan gadarnhau ei fod wedi cael triniaeth i annog ei wallt i ail-ddechrau tyfu ar ei ben.

“Dim ond I gadarnhau wrth fy holl ddilynwyr, dw i wedi cael trawsblaniad gwallt,” meddai’r pêl-droediwr 25 oed. “Ro’n I’n moeli, felly pam ddim. Dw i’n hapus iawn gyda’r canlyniad.

“Mae fy mhen yn dal i fod wedi cleisio ac wedi chwyddo, pan fydd wedi gwella, chi fydd y cynta’ I gael gweld sut mae’n edrych,” meddai wedyn ar Twitter. Oes unrhyw un yn gallu awgrymu jel gwallt? Haha.” Mae hefyd yn diolch i’r staff yn y clinig yn Harley Street, Llundain, a fu’n edrych ar ei ôl.