Ymgyrchwyr Greenpeace
Mae aelodau o’r grwp ymgyrchu Greenpeace wedi dringo rig olew 53,000 tunnell yn nyfroedd yr Arctig ger yr Ynys Las, er mwyn protestio yn erbyn y drilio am olew sy’n digwydd yn yr ardal gan gwmni o’r Alban.

Mae’r 18 aelod yn mynnu fod cwmni Cairn Energy yn cyhoeddi cynllun diogelwch, yn nodi sut y bydden nhw’n ymdrin â damwain amgylcheddol, pe bai rhywbeth felly’n digwydd.

Mae Greenpeace yn dweud fod y protestwyr wedi teithio allan i’r môr at y rig mewn pump o gychod cyflym yn gynnar fore heddiw, ac wedi dringo’r rig cyn gwneud eu ffordd i swyddfa rheolwr y drilio.

Mae Greenpeace yn honni y byddai hi bron yn amhosib ymdrin ag olew a fyddai’n llifo i’r môr yn yr ardal, oherwydd bod y lle mor anghysbell ac oherwydd y tywydd rhewllyd.

Fe ddechreuodd drilio yn yr ardal yr wythnos hon, ac mae dau brotestiwr Greenpeace eisoes wedi eu harestio am geisio amharu ar y gwaith.