Un o siopau Tote (Betty Longbottom CCA 2.0)
Y cwmni betio Betfred sy’n debyg o gael yr hawl i brynu’r Tote, gwasanaeth betio’r Llywodraeth.

Yn ôl y BBC, fe fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ddiweddarach heddiw gan yr Ysgrifennydd Diwylliant a Chwareon, Jeremy Hunt.

Y gred yw bod y pris tua £200 miliwn ar ôl proses werthu a gymerodd chwe mis, gydag 18 o gwmnïau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd.

Fe fydd hanner yr arian yn mynd i’r diwydiant rasio ceffylau a’r hanner arall i goffrau’r Trysorlys.

Codi arian

Mae’r Tote wedi bod yn codi arian yn gyson at y diwydiant ac mae rhai’n pryderu y gallai hynny leihau yn y dyfodol.

Mae’n berchen ar fwy na 500 o siopau betio ac mae ganddo le yn holl brif gaeau rasio gwledydd Prydain.

Fe gafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn 1928.