Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud y byddwn  nhw’n sicrhau na fydd preswylwyr cartrefi gofal Southern Cross yn cael cam os bydd y cwmni yn mynd i’r wal.

Mae Stryd Downing wedi dweud eu bod nhw’n barod i roi cymorth i’r 31,000 o’r bobol sy’n dibynnu ar Southern Cross, wedi i’r cwmni cartrefi gofal rybuddio ei fod mewn “sefyllfa ariannol ddifrifol.”

Dywedodd llefarydd ar ran David Cameron “mai budd y preswylwyr yw ein blaenoriaeth”.

“Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod y bobol yma yn cael eu gwarchod.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n camu i’r adwy gyda chefnogaeth ariannol i gadw’r 34 o gartrefi sydd gan Southern Cross yng Nghymru ar agor.

Yn y cyfamser, mae cynghorau Pen y Bont ar Ogwr a Blaenau Gwent, lle mae rhai o gartrefi gofal Southern Cross, wedi dweud y byddan nhw yn ceisio darparu cartref dros-dro i breswylwyr pe byddi angen.

Daw datganiad y llywodraeth ddiwrnod wedi i’r cwmni, sydd â 34 o gartrefi gofal yn ne Cymru, gyhoeddi eu bod wedi gwneud colledion o £311 miliwn yn ystod y chwe mis i 31 Mawrth.

Mae Adran Iechyd San Steffan wedi dweud y byddan nhw’n gwylio’r datblygiadau yn ofalus, ac yn cadw mewn cysylltiad agos ag uwch-reolwyr y cwmni yn ystod y misoedd nesaf.

Dywedodd Cadeirydd Southern Cross, Chritopher Fisher, nad oedd angen i bobol boeni fod y cwmni yn mynd i’r wal.

Dywedodd hefyd nad oedd bygythiad i’r un o gartrefi Southern Cross yn y tymor byr, ac nad oedden nhw’n ystyried symud preswylwyr o un cartref i’r llall ar hyn o bryd.