Mae cwmni Southern Cross wedi dweud y byddwn nhw’n talu llai o rent i’w landlordiaid yn y gobaith o gadw 750 o gartrefi gofal ar agor.

Datgelodd y cwmni ddechrau’r wythnos eu bod nhw wedi gwneud colled o £311m yn y chwe mis nes 31 Mawrth.

Mae’r cwmni sydd â 34 o gartrefi gofal yng Nghymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu talu 30% yn llai i’w landlordiaid o 1 Mehefin nes 30 Medi.

Gobaith y cwmni yw ennyn digon o gefnogaeth gan y landlordiaid er mwyn osgoi gorfod cau’r cartrefi sy’n darparu gofal ar gyfer tua 31,000 o bobol hyn ac anabl.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n mynd i dalu i gadw’r cartrefi ar agor a bod angen ateb masnachol i’r broblem.

“Ni fydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian er mwyn cwrdd â’r gofyn – mae angen ateb masnachol i broblem fasnachol,” meddai llefarydd.

Ychwanegodd eu bod nhw’n cydweithio â chynghorau er mwyn datblygu cynllun pe bai’r cartrefi gofal yn gorfod cau.

Dywedodd cynghorau Pen y Bont ar Ogwr a Blaenau Gwent, sy’n gartref i rai o gartrefi gofal Southern Cross, eu bod nhw’n barod i ddarparu cartref dros dro i’r preswylwyr pe bai angen.

Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb GMB, Paul Kenny, ar wleidyddion i ymyrryd er mwyn datrys y broblem.

“Mae’n rhaid canolbwyntio ar beth sy’n digwydd i 31,000 o breswylwyr hen a bregus sydd yn byw yng nghartrefi Southern Cross ledled Prydain,” meddai.

“Nid ffatrïoedd yn cau yw’r rhain – maen nhw’n rhan annatod o wead cymdeithasol pob cymuned.”