Banc Lloegr
Yr adferiad economaidd yn dilyn argyfwng ariannol 2008 fydd yr arafaf ers bron i ddwy ganrif, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw.
Bydd chwyddiant uchel, cynnydd mewn trethi a chynnydd araf mewn cyflogau yn golygu y bydd cartrefi Ynysoedd Prydain yn gwario 5.4% yn fwy mewn pedair blynedd nag yn 2008.
Yn ôl yr ymchwil gan bapur newydd y Financial Times mae hynny’n cymharu ag adlam o 20% saith mlynedd ar ôl dirwasgiad y 80au a 15% ar ôl dirwasgiad y 90au.
Y cyfartaledd ar gyfer po dirwasgiad y mae’r wlad wedi dioddef ers 1830 yw cynnydd o 12% saith mlynedd ar ôl y dirwasgiad.
Awgrymodd y Financial Times, sydd wedi seilio ei ddadansoddiad ar ffigyrau swyddogol, y bydd y wasgfa ar gyflogau yn golygu na fydd y rhan fwyaf o bobol yn sylweddoli fod pethau’n gwella.
Mae cartref Prydain bellach yn gwario 4% yn llai nag yn 2008, ac nid fydd yn dychwelyd i’r un lefel nes 2013, yn ôl Banc Lloegr.