Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod defnyddwyr ffonau symudol yn fwy tebygol o ddioddef o ganser yr ymenydd.

Dywedodd gwyddonwyr o Asiantaeth Ryngwladol Ymchwil Canser, bod tonnau radio-amledd electromagnetig y ffonau yn gallu achosi canser.

Roedd 31 gwyddonydd o 14 gwlad wedi cyfarfod yn Ffrainc a cyhoeddi datganiad ar y cyd bod y tonnau radio-amledd electromagnetig yn beryglus.

Dywedodd cadeirydd y gwyddonwyr oedd tu cefn i’r ymchwil, Jonathan Samet, fod digon o dystiolaeth i ddangos fod rywfaint o berygl.

“Mae’r casgliadau’r ymchwil yn dangos fod peryg ac mae angen rhagor o ymchwil i’r cysylltiad rhwng ffonau symudol a chanser,” meddai.

Er gwaetha’r rhybddion mae’r Swyddfa Iechyd wedi dweud nad ydynt yn mynd i newid eu barn ar y mater.

Maen nhw wedi dweud na ddylai plant ddefnyddio ffonau os nad yw’n angenrheidiol, ac y dylid cadw galwadau yn fyr.

Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi dweud nad oes yna unrhyw dystiolaeth gwyddonol clir fod defnyddio ffonau symudol yn achosi canser.

Ond fe ychwanegodd yr asiantaeth y dylai ymchwil ychwanegol gael ei gynnal i’r mater.